P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed
P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed
Mae rhoi gwaed yn rhywbeth anrhydeddus a defnyddiol i
rywun ei wneud yn y wlad hon i helpu pobl sydd ei angen yn fawr iawn. Fodd
bynnag, dydy pawb ddim yn gymwys i roi gwaed. Mae rhai o’r rhesymau am hyn yn ddealladwy
iawn, ond mae un rheswm nad yw’n ddealladwy o gwbl. Nid oes caniatâd i ddynion
hoyw roi gwaed os ydynt wedi cael cyfathrach rywiol â rhywun yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf, ac mae hynny’n anghywir ac yn annheg. Mae’r GIG yn bryderus
y caiff gwaed ei heintio ag HIV/AIDS. Fodd bynnag, gall unrhyw un fod ag AIDS,
nid dynion hoyw yn unig. Mae’r holl waed yn cael ei brosesu a’i brofi cyn ei
gynnig beth bynnag. Felly, does dim rheswm pam y dylai dyn hoyw ymatal am
flwyddyn er mwyn gwneud y peth anrhydeddus hwn. Mae angen i’r anghydraddoldeb
hwn ddod i ben nawr, a rhaid ni roi’r opsiwn o roi gwaed i bobl o bob
cyfeiriadedd rhywiol.
Prif
ddeisebydd: Scott Dymond
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 83
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/09/2014