P-04-570 Inequitable Access to Treatments That Have Not Been Nationally Appraised in NHS Wales

P-04-570 Inequitable Access to Treatments That Have Not Been Nationally Appraised in NHS Wales

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Genetic Alliance UK; Tuberous Sclerosis Association; a Association of Glycogen Storage Disorders, ar ôl casglu 455 o lofnodion.

 

Testun y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu defnydd y rheol eithriadoldeb ("exceptionality rule") wrth benderfynu a ddylai claf gael triniaeth drwy’r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

I gael mynediad at driniaethau drwy’r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol, rhaid i boblogaeth o gleifion ddangos ei heithriadoldeb. Ar gyfer anhwylderau cyffredin, mae’n bosibl bod modd adnabod is-gyfres o gleifion, o fewn y boblogaeth gyffredinol, sy’n fwy tebygol o ymateb i therapi benodol. Ar gyfer cleifion afiechydon prin, mae dangos eich bod yn glaf unigryw pan fo’ch yn rhan o grŵp bychan o gleifion y mae eu cyflwr yn cael ei ystyried yn brin yn amhosibl bron. Mae’r meini prawf o ran eithriadoldeb yn gosod y cyfrifoldeb ar glinigwyr i ddarparu tystiolaeth bod cyflwr clinigol y claf yn wahanol iawn i’r boblogaeth gyffredinol o gleifion sydd â’r un cyflwr a’i fod yn debygol o gael budd sylweddol uwch o’r driniaeth nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl. Mae’r gofyniad hwn o ran y dystiolaeth yn ormod o faich i’w roi o ran cleifion sydd ag afiechydon prin, o ganlyniad i’r nifer fach o gleifion o fewn y boblogaeth sydd ag afiechydon prin. Caiff cleifion sydd ag anghenion clinigol mawr eu hatal rhag cael mynediad at driniaethau sy’n newid / achub eu bywyd.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Bu'r pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y ddeiseb wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros dair blynedd yn ôl ac nid yw'n debygol y bydd y polisi'n newid yn y dyfodol agos, cytunodd y Pwyllgor y dylid ei chau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/07/2014.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014