P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Cyflwynwyd y ddeiseb
hon gan ABMU Victim Support Group, ar ôl casglu 87 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal
ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn ymchwilio i’r pryderon difrifol a godwyd
ynghylch safonau gofal ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
a’r modd y mae’r bwrdd yn ymdrin â chwynion—materion sydd wedi achosi cymaint o
niwed a dioddefaint y gellid eu hosgoi i gleifion mewn ysbytai sy’n cael eu
gweinyddu gan y Bwrdd a’i gyrff rhagflaenol, ac i berthnasau sy’n galaru—ac,
lle bo hynny’n briodol, i ddwyn y prif weithredwr a’r tîm rheoli i gyfrif.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch
i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 01/07/2014
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gorllewin
De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2014