P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru aneu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydweithio â Hitachi, sef perchennog newydd safle Wylfa B, er mwyn hyrwyddo'r defnydd o lo glân o Gymru neu o'n cyflenwadau helaeth o dechnolegau/adnoddau hyfyw yn lle adeiladu gorsaf niwclear beryglus.  

 

Mewn adroddiad ar dechnoleg glo glân a ddeilliodd o Gyngres Ynni'r Byd XXI, a gynhaliwyd ym Montreal, Canada, yn 2010, dywedodd cwmni Hitachi ei fod yn datblygu portffolio llawn o dechnolegau glo glân, gyda'r nod o wella effeithlonrwydd ymhellach, lleihau allyriadau CO2 90 y cant, a lleihau allyriadau o lygryddion eraill i lefel sy'n agos at sero. Fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg glo glân, pam nad yw Hitachi'n cydweithio â Llywodraeth Cymru i roi'r dechnoleg hon ar waith ar safle Wylfa B, yn hytrach nag adeiladu gorsaf niwclear sy'n hynaflyd ac yn wenwynig, ac sydd hefyd yn debyg i'r gorsafoedd a adeiladwyd yn rhannol gan Hitachi yn Fukushima? 

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae defnyddio gorsafoedd niwclear yn ddull peryglus ac aneconomaidd o gynhyrchu trydan. Oes fer sydd ganddynt, sy'n eu gwneud yn anymarferol, ac maent yn costio degau o filiynau o bunnoedd i drethdalwyr mewn costau datblygu, cymorthdaliadau a chostau datgomisiynu. Yn ogystal â bod yn agored i risg o ran ymosodiadau a thrychinebau naturiol, fel y gwelwyd yn Fukushima, mae ynni niwclear yn peri risgiau iechyd cydnabyddedig. Mae adroddiad pwysig gan Lywodraeth yr Almaen yn dangos bod cyfraddau uwch o ganser a lewcemia ymhlith plant yng nghyffiniau safleoedd niwclear. Gan nad oes yna ddull cydnabyddedig o gael gwared ar wastraff niwclear, bydd y gwastraff hwn yn llygru'r blaned am filoedd o flynyddoedd.

 

Gellid rhoi'r dulliau a ganlyn o gynhyrchu ynni, neu unrhyw gyfuniad ohonynt, ar waith ar Ynys Môn ac ar safleoedd eraill, yn hytrach na chynhyrchu ynni niwclear: glo glân o Gymru, nwy, hydrogen, ynni solar, ynni'r tonnau, ynni'r llanw, ynni'r dŵr, pŵer gwynt Maglev, ynni geothermol, llosgi sbwriel, treulio anerobig a biomas. Yn ôl maniffesto PAWB ar gyfer Ynys Môn, dim ond tua 600 o bobl sy'n gweithio yn Wylfa ar hyn o bryd, ond byddai'n bosibl creu hyd at 3,650 o swyddi newydd drwy ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy lleol yn unig.

 

Prif ddeisebydd: Cymru Sofren

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 26 Tachwedd 2013

 

Nifer y llofnodion: 104

 

Math o fusnes: Gwelliant

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2013