P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa

P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
Ymchwilio i
r ddarpariaeth o leoedd parcio oddi ar y ffordd i bobl anabl yn unol â chyfarwyddyd yr Adran Drafnidiaeth.
Creu deddf sy
n nodi isafswm y lleoedd parcio i bobl anabl, a dimensiynaur lleoedd hynny. Ymchwilio ir maint lleiaf a bennir ar gyfer lleoedd parcio i bobl anabl ar hyn o bryd, i ganfod a ystyrir faniau a gaiff eu defnyddio i gludo defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Pennu dirwy safonol, uwch am gamddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl, a fyddai
n gymwys ym mhob maes parcio, a sicrhau y caiff ei gorfodi y tro cyntaf y bydd rhywun yn troseddu.
Gorfodi cwmn
ïau tacsis i gludor clampiau a riliau dirwyn cywir iw defnyddio gyda chadeiriau olwyn â modur.
Ymchwilio a yw
r tai bach a ddarperir i bobl anabl ar hyn o bryd yn ddigon mawr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn â modur au gofalwyr.
Creu cynllun sy
n trefnu bod siopau sydd â rampiau sefydlog neu symudol yn arddangos bathodyn yn eu ffenestri.

Prif ddeisebydd: Mencap ac Ysgol Erw’r Delyn

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  20 Tachwedd 2012

 

Nifer y llofnodion:  55

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016