Ystyried materion gweithdrefnol cyn y Seithfed Senedd
Ystyried materion gweithdrefnol cyn y Seithfed Senedd
Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau) 2024 (‘y Ddeddf’) yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn
golygu newidiadau i weithdrefnau’r Senedd, gan gynnwys diwygiadau i’r Rheolau
Sefydlog a’r canllawiau cysylltiedig.
Yn sgil hyn,
mae’r Pwyllgor Busnes yn ystyried
ystod o faterion i sicrhau bod yr holl baratoadau gweithdrefnol angenrheidiol
sy’n ymwneud â diwygio’r Senedd yn cael eu gwneud cyn etholiad y Seithfed
Senedd ym mis Mai 2026.
Mae’r agweddau
cyntaf ar y gwaith hwn yn canolbwyntio ar newidiadau sy’n ofynnol i’r Rheolau
Sefydlog sy’n ymwneud â chategorïau gwahanol o Aelodau o’r Senedd, yn sgil
newidiadau i system etholiadol y Senedd a wneir gan y Ddeddf.
Bydd y gwaith hwn
yn mynd rhagddo i ystyried agweddau eraill ar weithdrefnau’r Senedd, yn ogystal
ag argymhellion a wneir gan Bwyllgor
Senedd y Dyfodol.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/01/2025