Deddfu ar gyfer Brexit
Deddfu ar gyfer Brexit
Mae’r Llywydd
wedi ysgrifennu
at Brif Weinidog Cymru yn dilyn cyfarfod o Fforwm y Cadeiryddion a gynhaliwyd ar
28 Tachwedd 2018, ble y mynegwyd pryderon am rôl y Cynulliad yn y broses o
ddeddfu ar gyfer Brexit. Mae’r Llywydd wedi gofyn i’r Prif Weinidog ystyried
sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau bod y Cynulliad yn chwarae rhan
lawn wrth ddeddfu ar gyfer Brexit.
Ymatebodd
y Prif Weinidog ar 11 Ionawr 2019.
Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol yn cydgysylltu gweithgareddau ar draws pwyllgorau’r Cynulliad yn
unol â’i gylch gwaith. Caiff y dudalen hon ei diweddaru pan fydd y pwyllgorau
wedi ystyried eu hymatebion.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018
Dogfennau