Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod
Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod
Rhwng mis Ionawr
2025 a mis Mawrth 2026, roedd y Pwyllgor
Busnes yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau
Aelod.
Canlyniadau
Ym mis Hydref
2025, cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes adroddiad
sy’n nodi ei gasgliadau ar faterion ynghylch deddfu mewn amgylchedd hybrid, ac
sy’n cynnig newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ynghylch pleidleisio mewn Pwyllgor
o’r Senedd Gyfan a’r cyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd pwyllgorau.
Trafodwyd yr adroddiad a chytunwyd arno yn y cyfarfod llawn ar 5 Tachwedd 2025,
a gwnaed newidiadau cysylltiedig wedyn i’r Canllawiau
ar Drafodion Rhithwir a Hybrid.
Ym mis Mawrth
2026, cyhoeddodd y Pwyllgor Busnes ddau adroddiad sy’n nodi ei gasgliadau ac yn
cynnig newidiadau i’r Rheolau Sefydlog:
>>>>
>>>Diwygio’r
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 Biliau Aelod
<<<<
Y broses ar
gyfer Biliau Cyhoeddus
Un o brif
gyfrifoldebau’r Senedd yw deddfu ar gyfer Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy ystyried
a phasio cyfreithiau arfaethedig. Yr enw ar y cyfreithiau arfaethedig yw
Biliau.
Mae rheolau ar
gyfer y ffordd y mae’r Senedd yn ystyried ac yn pasio Biliau. Mae rhai o'r
rheolau wedi’u cynnwys yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 ac eraill wedi eu cytuno gan y Senedd yn ei Rheolau
Sefydlog. Mae canllawiau
ffurfiol ac anffurfiol hefyd ar gyfer Aelodau, staff a'r cyhoedd, a
sefydlwyd ffyrdd o weithio a chonfensiynau y cytunwyd arnynt.
Y broses ar
gyfer Biliau Aelod
Mae’r rhan fwyaf
o Filiau’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth
Cymru, ond mae’r rheolau hefyd yn caniatáu i Gomisiwn y Senedd, pwyllgorau’r Senedd
ac Aelodau unigol gyflwyno Biliau.
Cyn cael cyflwyno
Biliau, rhaid i Aelodau unigol gael eu dewis mewn un o'r balotau
ar gyfer Biliau Aelod y mae’n rhaid i'r Llywydd eu cynnal o bryd i'w
gilydd. Bydd gan Aelod sydd wedi’i ddewis mewn balot 25 diwrnod gwaith i gael
cytundeb y Senedd i gyflwyno ei Fil arfaethedig. Os bydd y Senedd yn cytuno,
yna bydd gan yr Aelod 13 mis i gyflwyno ei Fil.
Adolygiadau’r
Pwyllgor Busnes
Adolygodd y
Pwyllgor Busnes brosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod i
nodi beth oedd yn gweithio’n dda a beth y gellid ei wella.
Cylch gorchwyl yr
adolygiad oedd:
>>>>
>>>Archwilio
opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd gwaith y Senedd wrth
graffu ar Filiau Cyhoeddus, a gyflwynir yn unol â Rheol Sefydlog 26, drwy
adolygu profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n
berthnasol), gan gynnwys y canlynol:
>*>*>*
***Gweithdrefnau,
arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o weithio perthnasol.
***Y profiad o ddeddfu
mewn amgylchedd hybrid.
<*<*<*
>>>Archwilio
opsiynau ar gyfer gwella gweithrediad ac effeithiolrwydd proses y Senedd ar
gyfer Biliau Aelod, drwy gymryd y camau a ganlyn:
>*>*>*
***Adolygu
profiadau yn y Chweched Senedd (a Seneddau blaenorol lle y bo’n berthnasol),
gan gynnwys gweithdrefnau, arferion, confensiynau, diwylliant a ffyrdd o
weithio perthnasol cyn cyflwyno Bil Aelod (gan gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i’r ffordd y caiff Aelodau eu dewis ar gyfer y cyfle i gynnig Bil, y
broses ar gyfer cael ‘caniatâd i gyflwyno’, a lefel y wybodaeth y mae'n ofynnol
i Aelodau ei darparu ar y camau hyn).
***Nodi unrhyw
oblygiadau posibl i’r broses ar gyfer Bil Aelod sy’n deillio o’r cynnydd yn
nifer Aelodau’r Senedd.
***Nodi materion
sy’n ymwneud â’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i Aelodau yn ystod y broses
ar gyfer Bil Aelod a’u codi gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau
perthnasol, gan gynnwys Comisiwn y Senedd a Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.
<<<<
Casglu tystiolaeth
Cam 1
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth
ysgrifenedig ar 20 Ionawr 2025. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 28 Mawrth 2025
ac mae pob ymateb wedi'i gyhoeddi. Yn ogystal â'r alwad am dystiolaeth
ysgrifenedig:
>>>>
>>>Cynhaliodd y Pwyllgor gyfweliadau
a thrafodaethau grŵp rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2025
gyda’r canlynol:
>*>*>*
***Cyn-Aelodau ac Aelodau presennol o’r Senedd
sydd â phrofiad o gael eu dewis mewn balot Bil Aelod.
***Swyddogion Comisiwn y Senedd sydd â phrofiad o
fod yn rhan o dimau Bil Aelod.
***Aelodau presennol o Dŷ’r
Cyffredin, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban sydd â phrofiad o
ymgysylltu â
phroses Bil Aelod eu deddfwrfa.
<*<*<*
>>>Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
galw heibio
ar 11 Mawrth 2025 i Aelodau presennol o’r Senedd rannu eu barn ar y broses
graffu ddeddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus, a Biliau Aelod.
>>>Gwahoddodd y Pwyllgor, ar 31 Mawrth
2025, Fforwm
y Cadeiryddion
i rannu ei farn ar y broses graffu ddeddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus, a
Biliau Aelod.
<<<<
Cam 2
Ar ôl ystyried y
dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cam cyntaf ac argymhellion perthnasol a wnaed
gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol,
ceisiodd y Pwyllgor Busnes dystiolaeth wedi’i thargedu i’w helpu i ddatblygu
cynigion yn ôl yr angen.
Ym mis Hydref
2025, ysgrifennodd y Pwyllgor Busnes at bwyllgorau’r Senedd a fu’n craffu ar
Filiau a gyflwynwyd ym mlwyddyn olaf y Chweched Senedd, sef Biliau y cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru fersiynau ohonynt cyn eu cyflwyno’n ffurfiol. Daeth ymatebion
i law gan y canlynol:
>>>>
>>>Pwyllgor
y Bil Atebolrwydd Aelodau
>>>Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
>>>Y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol
>>>Y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
<<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2025
Dogfennau
- Llythyr gan Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cyhoeddi fersiynau o Filiau cyn eu cyflwyno – Tachwedd 2025
PDF 100 KB - Llythyr gan Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyhoeddi fersiynau o Filiau cyn eu cyflwyno – Tachwedd 2025
PDF 79 KB - Llythyr gan Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cyhoeddi fersiynau o Filiau cyn eu cyflwyno – Tachwedd 2025
PDF 133 KB - Llythyr gan Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau: Cyhoeddi fersiynau o Filiau cyn eu cyflwyno – Tachwedd 2025
PDF 68 KB - Llythyr gan Y Pwyllgor Cyllid: Cyhoeddi fersiynau o Filiau cyn eu cyflwyno – Hydref 2025
PDF 85 KB - Biliau Aelod: materion a godwyd gan Aelodau a swyddogion - Mehefin 2025
PDF 498 KB - Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: materion a godwyd gan Aelodau'r Senedd - Mehefin 2025
PDF 162 KB - Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: materion a godwyd gan Fforwm y Cadeiryddion - Mehefin 2025
PDF 194 KB
Ymgynghoriadau
- Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod (Wedi ei gyflawni)