Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Cafodd y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Cyffredin ar 16 Hydref 2024.

 

Mae enw hir y Bil yn nodi mai ei ddiben yw caniatáu i oedolion, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu, wneud cais am gymorth, ac iddo gael ei ddarparu, iddynt roi terfyn ar eu bywyd eu hunain; ac at ddibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Chwefror 2026.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Chwefror 2026

 

Ar 10 Chwefror 2026, cytunodd y Pwyllgor Busnes ymlaen llaw (PDF 77KB) i wahodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ac i gyflwyno adroddiad arno erbyn 24 Chwefror 2026.

 

Ar 16 Chwefror 2026, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) (PDF 186KB).

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2025

 

Ar 23 Rhagfyr 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 158KB).

 

Ar 13 Tachwedd 2025, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Rhif 2 at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 20 Ionawr 2026 (PDF 77KB).

 

Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Busnes, 12 Ionawr 2026 (PDF 120KB).

 

Ar 20 Ionawr 2026, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 23 Chwefror 2026 (PDF 164KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 247KB) ar 27 Ionawr 2026.

Ymatebodd (PDF 134KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 12 Chwefror 2026.

 

Gosododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 216KB) ar 10 Chwefror 2026.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Gorffennaf 2025

 

Ar 4 Gorffennaf 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 188KB).

 

Ar 8 Gorffennaf 2025, cytunodd (PDF 43KB) y Pwyllgor Busnes y dylai’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol erbyn 10 Hydref 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 260KB) ar 7 Hydref 2025.

 

Ymatebodd (PDF 40KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Tachwedd 2025.

 

Gosododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 452KB) ar 10 Hydref 2025.

 

Ymatebodd (PDF 669KB ) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Tachwedd 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Ebrill 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 158KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Ebrill 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 27 Mehefin 2025 (PDF 43KB).

 

Ar 24 Mehefin 2025, cytunodd (PDF 44KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 19 Medi 2025.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 260KB) ar 7 Hydref 2025.

 

Ymatebodd (PDF 40KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2025.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2025

Dogfennau