Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Bil gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi trosglwyddo’r Bil i’r Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau.

 

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:

>>>> 

>>>Gwella atebolrwydd Aelodau o’r Senedd i’r etholwyr, darparu mecanwaith i alw Aelod etholedig yn ôl, a’i ddiswyddo o’i swydd yn ystod ei dymor ar sail ewyllys a fynegir gan bleidleiswyr yn yr etholaeth berthnasol.

>>>Cryfhau proses safonau'r Senedd fel y'i hystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan gynnwys:

>*>*>*

***Sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad gorfodol;

***Cyflwyno elfen o annibyniaeth ac arbenigedd i'r Pwyllgor hwnnw drwy benodi aelodau lleyg; a

***Rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Comisiynydd Safonau ystyried yn rhagweithiol bryderon ynghylch ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

<*<*<*

>>>Yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n gwahardd gwneud datganiadau ffeithiol ffug neu eu cyhoeddi. Mae hyn mewn ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ddichell fwriadol.

<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil i’w gweld yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Ymchwil y Senedd, Erthygl - Bil newydd yn ceisio cryfhau atebolrwydd Aelodau a mynd i'r afael â chamwybodaeth mewn etholiadau.

 

Cyfnod Presennol

BillStage2

Mae’r Bil yng Nghyfnod 2 ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

¬¬¬Cyfnod 2 (Presennol)

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 14 Ionawr 2026. Caiff manylion y gwelliannau a gyflwynwyd eu cyhoeddi yma.

 

Yn ddarostyngedig i benderfyniad ariannol yn cael ei gytuno erbyn 11 Chwefror 2026, bydd trafodion Cyfnod 2 yn cael eu cynnal yn y Pwyllgor ar 12 Chwefror 2026 (ac ar 13 Chwefror os bydd angen). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod lle maent i fod i gael eu trafod.

 

Ar 20 Ionawr 2026, cytunodd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, o dan Reol Sefydlog 26C.27, ar y drefn a ganlyn ar gyfer trafodion Cyfnod 2: adran 2 i adran 21, Atodlen 1 ac Atodlen 2, adran 22 i adran 25, adran 1, a’r teitl hir.

zzz

¬¬¬Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil. Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i'r cyfnodau craffu ar gyfer Biliau Cyhoeddus.

 

Roedd dadl wedi’i hamserlennu i’w chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig i gymeradwyo penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil, a hynny ar 13 Ionawr 2026. Cyflwynwyd y cynnig ond ni chafodd ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol yn ystod trafodion y Cyfarfod Llawn. Gellir cyflwyno gwelliannau i’r Bil (o 14 Ionawr 2026 ymlaen). Fodd bynnag, hyd nes y bydd cytundeb ar benderfyniad ariannol, nid oes modd cynnal trafodion ar y Bil yng Nghyfnod 2. Caiff manylion pellach eu cyhoeddi pan fyddant ar gael.

zzz

¬¬¬Cyfnod 1

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil ar 13 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Trafododd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau ei ddull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 ar 21 Hydref 2025.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

16 Rhagfyr 2025

Trafod yr adroddiad drafft (Preifat)

Preifat

Preifat

9 Rhagfyr 2025

Trafod yr adroddiad drafft (Preifat)

Preifat

Preifat

3 Rhagfyr 2025

Trafod y materion allweddol (Preifat)

Preifat

Preifat

2 Rhagfyr 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (Cyhoeddus)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

27 Tachwedd 2025

Sesiynau tystiolaeth lafar: Alberto Costa AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin a Dr David Stirling, Aelod Lleyg o Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin (Cyhoeddus)

 

Sesiynau tystiolaeth lafar: Alexander Greenwood, Cymdeithas y Bar Troseddol a Jonathan Elystan Rees KC, Cymdeithas y Bar  Troseddol (Cyhoeddus)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

25 Tachwedd 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda'r Comisiynydd Seneddol dros Safonau, Tŷ'r Cyffredin a Chomisiynydd Safonaur Ynysoedd Cyfan (Cyhoeddus)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

18 Tachwedd 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Comisiwn Etholiadol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Cyhoeddus)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

11 Tachwedd 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Cyhoeddus)

 

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Comisiynydd Safonau (Cyhoeddus)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

4 Tachwedd 2025

Cadarnhad ar y dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 (Cyhoeddus)

 

Cynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol (Preifat)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

21 Hydref 2025

Cylch gorchwyl y Pwyllgor (Cyhoeddus)

 

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

 

Sesiwn friffio dechnegol (Preifat)

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

Gosododd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ei adroddiad ar 23 Rhagfyr 2025 (PDF 3MB). Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2026 (PDF 260KB).

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

17 Tachwedd 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 23 Rhagfyr 2025 (PDF 2.4MB). Ymatebodd (PDF 244KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2026.

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

20 Tachwedd 2025

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 19 Rhagfyr 2025 (PDF 398KB). Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2025 (PDF 216KB). Ymatebodd Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 (PDF 157KB).

 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (3 Tachwedd 2025)

>>>> 

>>>Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd (PDF 336KB)

>>>Memorandwm Esboniadol (PDF 1.9MB)

>>>Datganiad y Llywydd: 3 Tachwedd 2025 (PDF 177KB)

>>>Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil – 3 Tachwedd 2025 (PDF 74KB)

>>>Datganiad o Fwriad Polisi – 3 Tachwedd 2025 (PDF 255KB)

<<< 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt:

 

Clerc: Sarah Sargent

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

 

Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

 

E-bost: SeneddBAA@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2025

Dogfennau

Ymgynghoriadau