Penderfyniadau
Dadl: Cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
30/04/2014 - Debate: Proposals for the Wales Rural Development Programme 2014-2020
Dechreuodd yr eitem am 15.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig
2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant
cymdeithasol yn y Gymru Wledig.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhaglen Datblygu Gwledig
2014-2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddewis trosglwyddo 15%,
sef y lefel uchaf a ganiateir, i ffwrdd o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yng
Ngholofn 1 o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin i’r Rhaglen Datblygu Gwledig, gan
wneud busnesau ffermio Cymru yn llai cystadleuol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn ceisio sicrwydd y bydd mesurau sy’n cael eu darparu drwy’r Rhaglen
Datblygu Gwledig yn cael effaith ddi-oed, amlwg a mesuradwy ar incwm ffermydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) datblygu cynllun annibynnol ar gyfer
Ardaloedd Llai Ffafriol i gefnogi’r rheini sy’n ffermio yn ardaloedd mwyaf
heriol Cymru;
b) annog rhagor o ffermwyr i fanteisio ar gynllun Glastir drwy ei
symleiddio ac ehangu’r mynediad iddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i fodiwleiddio’r 15% llawn
o Golofn 1 i Golofn 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y
Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
25 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er mwyn
ysgogi'r sector ffermio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru ac
yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu
Gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun Ardaloedd â Chyfyngiadau
Naturiol penodedig ar gyfer ffermydd mynydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5490 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd cynigion Llywodraeth Cymru yn Rhaglen Datblygu Gwledig
2014-2020 yn sbarduno ac yn cryfhau’r economi, yr amgylchedd a chydlyniant
cymdeithasol yn y Gymru Wledig.
2. Yn penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru ddangos yn flynyddol effaith y
Rhaglen Datblygu Gwledig ar incwm ffermydd.
3. Yn galw ar y Llywodraeth i flaenoriaethu cymorth i ffermwyr ifanc er
mwyn ysgogi'r sector ffermio.
4. Yn nodi cyfraniad sylweddol yr economi wledig at economi ehangach Cymru
ac yn cydnabod y potensial ar gyfer datblygu economaidd drwy’r Rhaglen Datblygu
Gwledig.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.