Penderfyniadau
Dadl: Cymeradwyo drafft y ‘Cynllun Hawliau Plant 2014’ o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
01/07/2015 - Debate on the Welsh Ministers' Report on the compliance with the duty under section 1 of the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o
dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn
gyffredinol.
Derbyniwyd
y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd
o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn
gyffredinol.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
30/04/2014 - Debate: The approval of the draft 'Children's Rights Scheme 2014' under the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun Hawliau
Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys yn
atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif
ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo
cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau
gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i
hawliau plant.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y diffyg cyfeiriad at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau’r Plentyn mewn deddfwriaeth ddiweddar, fel Deddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Plant a
Phobl Ifanc, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i danlinellu ymrwymiad Cymru i
Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy gynnwys cyfeiriad at
“sylw dyledus” ar wyneb unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai’n effeithio
ar blant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
10 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau Nawr,
Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn
sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng
rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5489 Lesley Griffiths (Wrecsam)
1. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur
Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, yn cymeradwyo’r drafft o Gynllun
Hawliau Plant 2014 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014.
2. Yn nodi datganiad y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, sydd wedi’i gynnwys
yn atodiad 3 i Gynllun Hawliau Plant 2014, bod y rhwymedigaeth i roi’r brif
ystyriaeth i fuddiannau gorau’r plentyn yn ymestyn hefyd at gymeradwyo
cyllidebau, gan fod gofyn mabwysiadu safbwynt sy’n canolbwyntio ar fuddiannau
gorau’r plentyn wrth eu paratoi a’u datblygu er mwyn iddynt fod yn sensitif i
hawliau plant.
3. Yn nodi Adroddiad Interim Corff Anllywodraethol Cymru 2013‘Hawliau
Nawr, Hawliau Heddiw: A yw Hawliau Plant yn Realaeth yng Nghymru?’ ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau monitro effeithiol ar waith er mwyn
sicrhau "gweithredu unedig i leihau'r bwlch o ran gweithredu rhwng
rhethreg polisi cenedlaethol a chyflenwi lleol".
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.