Penderfyniadau
Cynigion i ddiwygio Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
03/04/2014 - Motion to amend Schedule 1 of the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure (2010)
Dechreuodd yr eitem am 15.13
NDM5481
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran
5(1) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010:
Yn penderfynu bod Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol
Cymru (Taliadau) 2010 yn cael ei diwygio fel nad yw'r swyddi na'r disgrifiadau
canlynol o unigolion bellach wedi eu hanghymhwyso o aelodaeth o Fwrdd Taliadau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
a) Aelod o Dy'r Arglwyddi;
b) Unigolyn a oedd yn aelod o’r naill neu’r llall o'r paneli
a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad i adolygu cyflogau a lwfansau Aelodau
Cynulliad yn unol â phenderfyniadau Comisiwn y Cynulliad dyddiedig 4 Gorffennaf
2007 ac 8 Mai 2008.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.