Penderfyniadau
Ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
11/12/2014 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5648 David Rees (Aberafan)
Mae Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu
Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 16 Hydref 2014.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.