Penderfyniadau
Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl - Y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
23/01/2014 - Motion under Standing Order 16.3 to alter the remits and titles of committees
Dechreuodd yr
eitem am 14.57
NDM5403
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i:
1. newid cylch gwaith y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i gynnwys
Addysg Uwch;
2. newid teitl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg;
3. trosglwyddo twristiaeth o gylch gwaith y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gylch gwaith y Pwyllgor Menter a
Busnes.
Mae cynigion y Pwyllgor Busnes i’w gweld yn yr adroddiad
‘Portffolios a Chyfrifoldebau'r Pwyllgorau yn y Pedwerydd Cynulliad’ a osodwyd
ar 15 Ionawr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17/10/2013 - Motion under Standing Order 16.3 to alter the remit of the Finance Committee
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM5334
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid
cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid fel ei fod,
yn ogystal â’i swyddogaethau presennol, yn cyflawni
swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog
18.10 ac 18.11.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
03/05/2012 - Motion to establish the Committee for the Scrutiny of the First Minister
Dechreuodd yr eitem am15:11.
NDM4969 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog; a
2. Yn cytuno
mai cylch gwaith y Pwyllgor fydd craffu ar
waith y Prif Weinidog am unrhyw fater sy’n berthnasol
i’r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
23/06/2011 - Motions to establish committees
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
16/06/2011 - Motion to establish a committee to consider petitions to the Assembly
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
16/06/2011 - Cynnig i sefydlu pwyllgor i ystyried offerynnau statudol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.