Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
27/11/2013 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Bill in respect of the ASBO exception
Dechreuodd yr eitem am
18.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5342 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol, Troseddau
a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
1 |
0 |
55 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig.
25/09/2013 - Legislative Consent Memoranda on the Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Bill in respect of the introduction of Community Protection Notices, Public Spaces Protection Orders, Closure Notices and amendments to the Dangerous Dogs Act 1991
Dechreuodd yr eitem am 17.08
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau
Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a
diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
9 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
25/09/2013 - Legislative Consent Memoranda on the Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Bill in respect of Framework of capital finance controls contained in Part 1 of the Local Government Act 2003 to Chief Constables in Wales
Dechreuodd yr eitem am 17.03
NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau
cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng
Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
25/09/2013 - Legislative Consent Memoranda on the Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Bill in respect of injunctions to prevent nuisance and annoyance, criminal behaviour orders and the community trigger
Dechreuodd yr eitem am 16.52
NDM5253
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a
Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau,
gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
25/09/2013 - Legislative Consent Memoranda on the Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Bill in respect of recovery of possession of dwelling houses
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud ag adennill
meddiant o dai annedd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.