Penderfyniadau

P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/07/2013 - P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;

·         Ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu barn am y mater:

o   Accreditation Network UK

o   Addysg Uwch Cymru

o   Association of Letting and Management Agents

o   Cartrefi Cymunedol Cymru

o   CLlLC / Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg

o   Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl

o   Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid

o   Cyngor ar Bopeth

o   Cyngor Ceredigion

o   Cynllun Achredu Landlordiaid

o   Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

o   Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

o   Shelter Cymru

o   Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

o   Y Sefydliad Tai Siartredig; ac

o   ymgynghoriad ysgrifenedig llawn ar agor i’r cyhoedd, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn tynnu sylw at bryderon y deisebwyr, yn arbennig o ran yr amser a roddwyd i’r Bil Tai; a

·         threfnu sesiwn dystiolaeth lafar unwaith y bydd yr ymatebion wedi dod i law.