Penderfyniadau

P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/07/2013 - P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;

o   ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu barn am y mater:
CLlLC;

o   Cymdeithas Cynghorwyr;

o   Un Llais Cymru;

o   Y Comisiwn Etholiadol;

o   Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol;

o   ceisio cael eglurder ynghylch a fyddai Comisiwn y Cynulliad yn gallu gwneud sylw ac, os felly, beth yw ei farn; a

o   phennaeth staff pob plaid wleidyddol sydd wedi cofrestru yng Nghymru