Penderfyniadau
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2014-15
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
11/03/2015 - Debate on the Second Supplementary Budget 2014-15
Dechreuodd yr eitem am 14.47
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5696 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y
Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol
ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a
e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 10 Chwefror 2015.
Troednodyn:
Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad
rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng
y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng
yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
11 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
16/07/2014 - Debate: The First Supplementary Budget 2014-15
Dechreuodd yr
eitem am 17.26
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5541 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn
cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd
Mawrth, 24 Mehefin 2014.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
19 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.