Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mordwyo Morol
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
20/02/2013 - Legislative Consent Motion – The Marine Navigation (No. 2) Bill
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Mordwyo Morol
(Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964
a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.