Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Twf a Seilwaith
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
06/02/2013 - Supplementary Legislative Consent Motion - Growth and Infrastructure Bill - Amendments to the Local Government Finance Act 1988
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5125 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith sy’n ymwneud â diwygiadau i
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2012
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
06/02/2013 - Legislative Consent Motion - Growth and Infrastructure Bill - Deemed planning permission for generating consents
Dechreuodd yr eitem am 15.33
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM5124 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar
gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd
wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).