Penderfyniadau
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Saesneg yn unig)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
20/12/2012 - Motion to approve the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations
Dechreuodd yr eitem
am 13.31
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog
12.24 y byddai’r ddwy eitem a ganlyn yn cael eu
trafod gyda’i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân.
NDM5122
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn cael ei lunio
yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
06/12/2012 - Motion to approve the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations
Gan nad
oedd dwy ran o dair o’r Aelodau
a bleidleisiodd yn cefnogi’r cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro,
ni chafodd eitemau 8 a 9 eu trafod.