Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

09/01/2013 - Legislative Consent Memorandum on Prevention of Social Housing Fraud Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

NDM5082 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Atal Twyll Tai Cymdeithasol i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.