Penderfyniadau

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

15/01/2014 - Statement by the Counsel General: The Referral of the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill to the Supreme Court

Dechreuodd yr eitem am 14.59


21/11/2013 - Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.59

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig.


21/11/2013 - Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.55

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Atebolrwydd

11, 13

 

2. Gofal Lliniarol

4

 

3. Gwasanaethau a eithrir

5, 6, 10

 

4. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau

7

 

5. Apelau a hawlildiadau

1, 2, 3

 

6. Defnyddio Gwybodaeth

12

 

7. Defnyddio symiau a ad-delir

14, 15

 

8. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro

8, 9

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

26

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

26

46

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gan fod gwelliant 5 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 6 ac 10.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

1

37

48

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gan fod gwelliant 8 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 9.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


21/03/2013 - Financial Resolution on the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill - moved from 20 March 2013

Dechreuodd yr eitem am 18.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5190 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.


21/03/2013 - Stage 1 Debate on the Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill - moved from 20 March 2013

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5192 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru).

Cafodd y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 7 Mawrth 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig.


06/12/2012 - Statement by Mick Antoniw: Introduction of a Member proposed Bill – Recovery of Medical Costs for Asbestos Diseases (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 15:11