Penderfyniadau

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

21/03/2013 - Natural Resources Body for Wales (Functions) Order 2013

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5191 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod fersiwn ddrafft Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 yn cael ei gwneud yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig.