Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

30/01/2013 - Legislative Consent Motion - Public Service Pensions Bill

Dechreuodd yr eitem am 18.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

8

50

Derbyniwyd y cynnig.


09/01/2013 - Legislative Consent Memorandum on the Public Service Pensions Bill - clauses relating to restrictions to be applied to new schemes