Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
07/11/2012 - Legislative Consent Motion on the Disabled Persons' Parking Badges Bill
Dechreuodd yr eitem am 15:40
NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio
Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.