Penderfyniadau
Enwebu Prif Weinidog - y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
12/05/2011 - Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8.
Yn unol â Rheol Sefydlog
12.11, cytunodd y Cynulliad
i ganiatáu enwebiadau ar gyfer penodi
Prif Weinidog Cymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog
8.2, gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer
penodi Prif Weinidog Cymru.
Enwebwyd Carwyn
Jones gan Janice Gregory.
Gan na
waned unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y Llywydd mai Carwyn Jones fyddai'r enwebai. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cyhoeddodd y Llywydd y bydd yn argymell
ar unwaith i Ei Mawrhydi Y Frenhines
benodiad Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru.
Gwahoddwyd
Carwyn Jones i annerch y Cynulliad.