Penderfyniadau
Enwebu'r Dirprwy Lywydd - y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
12/05/2011 - Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Estynnodd y Llywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol
Sefydlog 6.6.
Cynigiodd
Jocelyn Davies enwebu William Graham.
Eiliwyd yr enwebiad gan
Peter Black.
Cynigiodd Simon
Thomas enwebu David Melding.
Eiliwyd yr enwebiad gan
Christine Chapman.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol
Sefydlog 6.8.
Roedd canlyniadau’r
bleidlais gyfrinachol fel a ganlyn:
William Graham |
David Melding |
Ymatal |
Cyfanswm |
12 |
46 |
1 |
59 |
Cyhoeddodd
y Llywydd bod David Melding wedi’i
ethol yn Ddirprwy Lywydd.
Gwnaeth y Dirprwy Lywydd araith fer.