Penderfyniadau

Enwebu Llywydd - y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

12/05/2011 - Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6

Estynnodd y cyn-Lywydd wahoddiad am enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.

Cynigiodd Ieuan Wyn Jones enwebu Rosemary Butler.
Eiliwyd yr enwebiad gan Paul Davies.

Gan na wnaed unrhyw enwebiad arall, cyhoeddodd y cyn-Lywydd fod Rosemary Butler wedi'i hethol yn Llywydd.

Cymerodd y Llywydd y gadair a rhoddodd anerchiad i'r Cynulliad.