Penderfyniadau
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
10/10/2012 - Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen westy River Lodge, Llangollen - Tystiolaeth gan gyn Swyddog Cyfrifo
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Gareth Hall i’r cyfarfod.
4.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.
Cam i’w gymryd:
Cytunodd Gareth Hall i ddarparu:
· rhagor o wybodaeth am waith briffio gyda’r Gweinidog perthnasol o ran cynigion Cymdeithas Tai Clwyd Alyn i ddefnyddio safle gwesty’r River Lodge.
· Eglurder ar a gafwyd unrhyw esiamplau eraill o Awdurdod Datblygu Cymru / Llywodraeth Cymru yn methu â chynnal gwerthusiad annibynnol ar gaffael tir.
· Eglurder ar ba bryd y comisiynwyd yr adolygiad cydymffurfio.
· E-bost a gafwyd gan reolwr llinell Amanda Brewer yn amlinellu natur ei rôl ar fwrdd Powys Fadog a sicrwydd bod yr achos o wrthdaro buddiannau yn cael ei reoli’n effeithiol.