Penderfyniadau
Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
29/04/2015 - Debate on The Legislative Programme
Dechreuodd yr eitem am 15.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5744
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ar ôl 'Llywodraeth Cymru', mewnosod:
'ond yn gresynu at y diffyg uchelgais ynddo.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol yn
dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth o
fewn gweddill tymor y Cynulliad hwn a fydd yn ei gwneud yn ofynnol bod holl
staff meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn
swyddogol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
28 |
40 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5744
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
2. Yn cydnabod bod llwyddiant y rhaglen ddeddfwriaethol
yn dibynnu ar fecanwaith cyllido cynaliadwy ar gyfer Llywodraeth Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
|
|
|
|
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.