Penderfyniadau

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

09/05/2013 - Debate on the Health and Social Care Committee's Report on the One-day inquiry into stillbirths in Wales

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


02/07/2012 - Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru - Tystiolaeth lafar

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar farw-enedigaethau yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Siobhan Jones i gadarnhau a yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymgysylltu â chymunedau lleiafrifol ethnig ar y mater o farw-enedigaethau, ac i ddarparu enghreifftiau o’r gwaith hwnnw os felly.