Penderfyniadau
Deddfwriaeth - y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
18/11/2015 - The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (Transitional Provisions) Regulations 2015 - Withdrawn
07/10/2015 - The Human Tissue Authority's Code of Practice
Dechreuodd yr eitem am 18.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan
y cyfnod pleidleisio.
NDM5836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o God Ymarfer yr
Awdurdod Meinweoedd Dynol 2015 ar Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cael
ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11
Medi 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
1 |
9 |
49 |
Derbyniwyd y Cynnig.
04/03/2015 - Statutory Instrument Consent Memorandum on the Public Bodies (Abolition of the Advisory Committees on Pesticides) Order 2015
Dechreuodd yr
eitem am 15.06
NDM5704 Rebecca
Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru )
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, yn
cytuno i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r
Pwyllgorau Cynghori ar Blaladdwyr) 2015 yn unol â'r drafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.