Penderfyniadau
Blaenraglen Waith - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
07/07/2011 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Trafod materion o fewn y portffolio a chynigion ar gyfer blaenraglen waith y Pwyllgor
3.1 Cyflwynodd y gwasanaeth ymchwil bapur 2 ar feysydd allweddol yng nghylch gwaith y pwyllgor.
3.2 Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ynni ac y byddai’r gwasanaeth ymchwil yn paratoi papur cwmpasu a chylch gorchwyl drafft erbyn y cyfarfod nesaf.
3.3 Cytunodd y pwyllgor i wahodd y Prif Weinidog a Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i un o gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor yn nhymor yr hydref.
3.4 Gofynnodd y pwyllgor i’r swyddogion baratoi gwybodaeth am faterion hysbys ar ffurf llinell amser ar gyfer y tymor.
3.5 Cytunodd y pwyllgor i gynnal cyfarfod ffurfiol ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn cynnal sesiwn graffu gyda Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.