Penderfyniadau

NDM6129 Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

03/11/2016 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 14.58

NDM6129 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo Cytundeb Paris Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd fel cam ar y llwybr tuag at Gymru ddi-garbon.

2. Yn galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i fynd â'r neges hon i'r Gynhadledd ar Newid Hinsawdd ym Marrakech ym mis Tachwedd 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.