Penderfyniadau

NDM6102 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

29/09/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6102 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu nad yw Rhaglen Lywodraethu Prif Weinidog Cymru yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu cyflwyno ei Rhaglen Lywodraethu o fewn ei chyllideb.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.