Penderfyniadau
NDM6088 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
29/09/2016 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 14.52
NDM6088
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wneud penderfyniad i fynd i'r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio'r
dulliau mwyaf effeithiol o reoli a dileu TB buchol a sicrhau bod y profion a’r
cyfyngiadau symud yn gymesur â statws y clefyd mewn ardal.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.