Penderfyniadau
NDM6084 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
15/09/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.05
NDM6084 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi bod cadw'r gweithlu rheng flaen yn her fawr sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.
2. Yn
credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru amlinellu ei hymateb i gynnydd diweddar
yn nifer y swyddi meddygon gwag yn y GIG yng Nghymru.
3. Yn
cydnabod, â phryder, bod salwch sy'n gysylltiedig â straen yn gynyddol gyfrifol
am y ffaith bod staff gwasanaethau ambiwlansys yn absennol o'r gwaith, a'r
effaith y gallai hyn ei chael ar recriwtio a chadw staff yn y tymor hwy.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu strategaeth glir, gynhwysfawr sy'n
amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu recriwtio a chadw staff
rheng flaen ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â morâl isel y staff
yn ystod y Pumed Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.