Penderfyniadau
NDM6085 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
15/09/2016 - Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6085 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:
(a)
diogelu Cymru rhag canlyniadau negyddol a allai ddigwydd ar unwaith ar ôl
gadael yr Undeb Ewropeaidd; a
(b)
cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy:
(i)
creu asiantaeth ddatblygu i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a fydd yn
gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a
hybu ein hallforion;
(ii)
sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a
darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion
gwyrdd; a
(iii)
codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1. Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le:
'cyd-dynnu'n
rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill cyn dechrau
proses erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2. Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Dileu
is-bwynt (b)(i) a rhoi yn ei le:
'gwerthu
Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a hybu ein
hallforion;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
34 |
10 |
11 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6085 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu:
(a)
cyd-dynnu'n rhagweithiol â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill
cyn dechrau proses erthygl 50 a'r trafodaethau fydd yn dilyn hynny; a
(b)
cau'r bwlch ffyniant rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig drwy:
(i)
gwerthu Cymru, ein cynnyrch a'n syniadau i'r byd er mwyn tyfu busnesau Cymru a
hybu ein hallforion;
(ii)
sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru i gynllunio, ariannu a
darparu seilwaith ein cenedl o ran trafnidiaeth, telathrebu, ynni a materion
gwyrdd; a
(iii)
codi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.