Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
21/09/2016 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)
Dechreuodd yr eitem am 17.25
NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol
(Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o
wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.