Penderfyniadau
NDM6054 Dadl: Cynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
06/07/2016 - Dadl: Cynllun Cyflawni “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl”
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM6054 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng Nghynllun
Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig ar
gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy cynaliadwy na
chlustnodi.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
6 |
8 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant
1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
- Yn nodi blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd meddwl fel yr amlinellir hwy yng
Nghynllun Cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' 2016-19.
- Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried model Galw a Chapasiti Integredig
ar gyfer ariannu gwasanaethau iechyd meddwl fel model ariannu mwy
cynaliadwy na chlustnodi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
1 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.