Penderfyniadau

CLA667 - Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

02/03/2016 - Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) (Diwygio) 2016

Dechreuodd yr eitem am 15.13

NDM5977 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru)(Diwygio) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  2 Chwefror 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.