Penderfyniadau
CLA637 - Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
10/02/2016 - The Welsh Language (Wales) Measure 2011 (Amendment of Schedule 6) Order 2016
Cytunwyd
o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân.
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NDM5950
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6)
2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.