Penderfyniadau
CLA632 - Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
27/01/2016 - Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016
Dechreuodd yr eitem am
14.58
NDM5929 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau,
Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2015.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.