Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undebau Llafur
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
27/01/2016 - Legislative Consent Motion on the UK Trade Union Bill
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5932 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Undebau Llafur sy'n ymwneud â gofyniad trothwy pleidleisio ychwanegol ar
gyfer gweithredu diwydiannol mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig, amser o'r
gwaith â thâl i gynrychiolwyr undebau llafur a threfniadau didynnu tâl
aelodaeth undeb o gyflogau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig.