Penderfyniadau

CLA579 - Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

07/10/2015 - The Human Transplantation (Persons who Lack Capacity to Consent) (Wales) Regulations 2015 - to be made under Section 9 of the Act

Dechreuodd yr eitem am 18.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5835 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw'r Galluedd ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

1

10

49

Derbyniwyd y Cynnig.