Penderfyniadau
Dyfodol Cyllido Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
25/02/2016 - Future Funding: Consideration of draft report
4.1 Cytunodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft gyda mân
newidiadau.
03/02/2016 - Future Funding inquiry: Consideration of draft report
6.1 Adolygodd y Pwyllgor yr adroddiad a bydd yn ei
ystyried ymhellach yn ystod y cyfarfod nesaf.
16/12/2015 - Future Funding: Key issues
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a chytunodd i ohirio
trafodaeth bellach er mwyn gwahodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i roi
tystiolaeth.
29/07/2015 - Future Funding: Update on inquiry
10.1 Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
a Phersonél yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.
03/07/2015 - Future Funding: Consideration of evidence
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i
ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a gwahodd rhagor o dystion ar gyfer
sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref.
03/07/2015 - Future Funding: Evidence session 4
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a
Busnes y Llywodraeth, Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Cyllid a
Gwasanaethau Corfforaethol, Ed Sherriff, Pennaeth Strategaeth Ariannol, a Jeff
Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.
3.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.