Penderfyniadau
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Hawliau Defnyddwyr
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
26/11/2014 - Legislative Consent Motion on the Consumer Rights Bill: Amendment in relation to Letting Agency Fees
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM5626 Lesley Griffiths
(Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau
Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.