Penderfyniadau

Motion to suspend Standing Orders

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

09/06/2016 - Motion to Suspend Standing Orders

Dechreuodd yr eitem am 16.52

 

NNDM6017 Elin Jones (Ceredigion)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau'r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi'r Pwyllgor Busnes, er mwyn caniatáu i NNDM6018 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 8 Mehefin 2016.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


28/11/2012 - Cynnig i atal Rheol Sefydlog 12.20(i) ac 11.16 i gynnal trafodaeth ar Gomisiwn Silk

Dechreuodd yr eitem am 16:02

 

NDM5107 Jane Hutt  (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5108 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Tachwedd 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


22/11/2012 - Motion to suspend Standing Orders in relation to tabling deadlines on the 2 January 2013

Dechreuodd yr eitem am 15.02

 

NNDM5101 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal:

 

a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a

 

b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf bum niwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.

2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.